Hysbysiad Preifatrwydd

Bydd yr awdurdod lleol yn defnyddio'r wybodaeth a roddir gennych ar y ffurflen hon at ddibenion prosesu'ch cais am le ysgol ar gyfer eich plentyn. Caiff yr wybodaeth ei rhannu ag ysgolion. Mae'n bosib y caiff ei rhannu ag adrannau eraill yr awdurdod lleol hefyd at ddiben cadarnhau cywirdeb y cais ac os byddwch yn gwneud cais am le mewn ysgol y tu allan i Gastell-nedd Port Talbot, gellid ei rhannu ag ALl eraill ac ysgolion yn eu hardaloedd.