Maes gofynnol *

Croeso i'r Borth Derbyniadau Ysgol Castell-Nedd a Port Talbot

Croeso i broses ceisiadau ar-lein Derbyniadau Ysgolion Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Drwy ddefnyddio'r sgriniau canlynol, gallwch gyflwyno cais electronig am le ysgol ym mis Medi 2027.

Sylwer y bydd y broses ymgeisio ar-lein yn agor ar 21 Medi 2026 ar gyfer Addysg Uwchradd (Blwyddyn 7), gan gynnwys Ysgol Gatholig Rufeinig St Joseph’s a’r Chweched Dosbarth, ac yn agor ar 7 Rhagfyr 2026 ar gyfer Derbyn, Addysg Iau a Meithrinfa N1, gan gynnwys Ysgol Gynradd CIW Alderman Davies, Ysgol Gynradd CIW Bryncoch, Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph’s (Castell-nedd), Ysgol Fabanod Gatholig St Joseph’s, Ysgol Iau Gatholig St Joseph’s ac Ysgol Gynradd Gatholig St Therese.

Mae’r gwasanaeth ymgeisio ar-lein ar gael ar gyfer derbyniadau i Feithrinfa N1 yn unig, gan gynnwys Ysgol Gynradd CIW Alderman Davies, Ysgol Gynradd CIW Bryncoch ac Ysgol Gynradd Gatholig St Joseph’s (Castell-nedd).   Ar gyfer derbyn i Feithrinfa N1 yn Ysgol Fabanod Gatholig St Joseph’s, Ysgol Iau Gatholig St Joseph’s ac Ysgol Gynradd Gatholig St Therese, cysylltwch â’r ysgol berthnasol yn uniongyrchol.   Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Addysg Uwchradd (Blwyddyn 7) yw hanner nos ar 31 Hydref 2026. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Dderbyn/Addysg Iau yw hanner nos ar 15 Ionawr 2027, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am Feithrinfa N1 yw hanner nos ar 12 Mawrth 2027.

Cliciwch ar y ddolen Cofrestru neu, os ydych wedi cofrestru eisoes, rhowch eich cyfeiriad e-bost a'ch cyfrinair yn y blychau cyferbyn.

Bydd eich cais yn ddiogel. Mae gan y system gyfres o nodweddion diogelwch a fydd yn atal pobl eraill rhag gweld eich gwybodaeth.

Gallwch newid y ffurflen hon ar unrhyw adeg hyd y dyddiad cau. Os byddwch yn newid eich cais, bydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn ailgyflwyno'r cais.

Sylwer: drwy gyflwyno cais ar-lein, rydych yn dewis derbyn gohebiaeth drwy e-bost gennym. Sylwer y bydd yr e-byst a gynhyrchir yn awtomatig gan ein meddalwedd derbyniadau yn cynnwys enw a dyddiad geni'ch plentyn. Dylech ystyried cymryd camau priodol i sicrhau bod y lleoliad lle byddwch yn darllen eich e-byst yn ddiogel. Os oes mesurau hidlo sbam ar eich cyfrif e-bost, cofiwch newid eich gosodiadau i ganiatáu e-byst gan derbyniadau@npt.gov.uk. Darllenwch gyfarwyddiadau help eich darparwr e-bost i gael gwybod sut i wneud hyn.